Swyddog Asesu Achosion Cod
  • Wales,Bridgend
  • full-time
  • £31,290 per annum
Job Description:
To see this advert in English, click here
Swyddog Asesu Achosion Cod - Cytundeb Tymor Penodol 12 mis - £31,290
Dyddiad Cau:Hanner dydd ar 31 Mawrth 2025.
Y Cyfle
Mae Yolk Recruitment ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd er mwyn dod o hyd i Swyddog Asesu Achosion Cod am Gyntundeb Tymor Penodol 12 mis.
Mae’r Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i’r rhai sy’n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio hybrid a gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles. Oherwydd natur y swydd hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i’r rôl hon ddigwydd o’r swyddfa yn bennaf ar y dechrau.
Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer dethol.
Y Swydd
Mae hon yn swydd i raddedigion felly bydd yn addas i raddedigion diweddar, ac yn ddelfrydol i rai sydd â gradd yn y gyfraith. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n cysylltu â’r Ombwdsmon a byddwch hefyd yn asesu cwynion sy’n ymwneud â Cod Ymddygiad:
*Asesu a gwneud penderfyniadau ar gwynion yn ymwneud â Chod Ymddygiad a ddaw i law yr Ombwdsmon
*Drafftio a chyhoeddi hysbysiadau perthnasol ynghylch penderfyniadau
*Rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau o’r cyhoedd
*Diweddaru’r system rheoli achosion
Gofynion
Bydd y Swyddog Asesu Achosion Cod llwyddiannus yn bodloni’r rhan fwyaf o’r meini prawf canlynol:
*Gradd berthnasol (yn y gyfraith yn ddelfrydol).
*Y gallu i asesu gwybodaeth gymhleth, gan adnabod materion allweddol yn gyflym wrth ymdrin ag achosion cymhleth er mwyn gwneud penderfyniadau rhesymedig.
*Y gallu i chwilio am ffeithiau, dadansoddi gwybodaeth a gwneud argymhellion cadarn.
*Gallu cryf i addasu i newid a deall gwybodaeth newydd a newidiadau deddfwriaethol yn gyflym.
*Sgiliau gweinyddol a rhyngbersonol rhagorol.
Buddion
Bydd y Swyddog Asesu Achosion Cod llwyddiannus yn cael y buddion canlynol:
*Cyflog o £31,290
*Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
*32 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
*Cynllun oriau hyblyg
*Disgownt wrth ddefnyddio’r gampfa a llawer mwy o fuddion.
Ai dyma’r swydd i chi?
Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio’r Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.
Gallwch ofyn am becyn ymgeiswyr sy’n cynnwys y Swydd-disgrifiad a Manyleb y Person yn llawn gan Richard Coombs yn Yolk Recruitment.
Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.
Job number 2206388

Increase your exposure to recruiters with ProJobs

Thousands of recruiters are looking for you in the Job Master profile database, increase your exposure 4 times with a ProJob subscription

You can cancel your subscription at any time.
metapel
Company Details:
Yolk Recruitment Ltd
Company size: 20–49 employees
Industry: Recruitment Consultancy
We’re all about people. You, yours, ours. Connecting. Building relationships. Making the right matches. Finding that missing piece. And it&rsquo...
The jobs on site are for both men and women