Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion
other jobs Yolk Recruitment Ltd
Added before 10 Days
- Wales,Bridgend
- full-time
- £49,764 - £54,090 per annum
Job Description:
To see this advert in English, click here
Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion - Parhaol - £49,764 - £54,090
Dyddiad Cau: Hanner dydd ar 31 Mawrth 2025.
Y Cyfle
Mae Yolk Recruitment ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dod ynghyd er mwyn dod o hyd i Reolwr Safonau Gwella a Chwynion.
Mae’r Ombwdsmon yn gyflogwr delfrydol i’r rhai sy’n chwilio am waith yng Nghymru a thu hwnt, gan ei fod yn cynnig gweithio hybrid a gweithio hyblyg gyda lwfansau gwyliau blynyddol hael, pensiwn y gwasanaeth sifil, DPP ac amrywiaeth eang o fuddion iechyd a lles. Oherwydd natur y swydd hon, rydym yn rhagweld y bydd angen i’r rôl hon ddigwydd o’r swyddfa yn bennaf ar y dechrau.
Mae’r Ombwdsmon wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn gwarantu cyfweliadau i ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer dethol.
Y Swydd
Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion yn arwain ac yn hyrwyddo Awdurdod Safonau Cwynion i Gymru, gan gydweithio â chyrff allanol i roi gweithdrefnau effeithiol ar waith ar gyfer ymdrin â chwynion yn ogystal â rheoli tîm bach.
*Sicrhau bod Awdurdod Safonau Cwynion yn sefydlu ei hun fel canolfan arferion gorau wrth ymdrin â chwynion.
*Darparu hyfforddiant i gyrff, ochr yn ochr â swyddogion hyfforddi, i wella eu perfformiad wrth ymdrin â chwynion.
Gofynion
Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion llwyddiannus yn brofiadol yn y rhan fwyaf o’r elfennau canlynol:
*Profiad o reoli llinell, yn ddelfrydol mewn amgylchedd sy’n ymwneud â chwynion neu mewn awdurdod lleol neu yn y sector cyhoeddus ehangach.
*Gallu amlwg i feithrin cysylltiadau gwaith cryf gyda sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
*Profiad o ymchwil a dadansoddi ansoddol a meintiol.
*Profiad o gyflwyno hyfforddiant.
*Sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu ac ysgrifennu adroddiadau.
Buddion
Bydd y Rheolwr Safonau Gwella a Chwynion llwyddiannus yn cael y buddion canlynol:
*Cyflog o £49,764 - £54,090
*Cynllun pensiwn y gwasanaeth sifil
*32 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc
*Cynllun oriau hyblyg
*Disgownt wrth ddefnyddio’r gampfa a llawer mwy o fuddion.
Ai dyma’r swydd i chi?
Yolk Recruitment yw unig bartner recriwtio’r Ombwdsmon ac felly bydd pob cais yn cael ei reoli gan y tîm yn Yolk gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw yr Ombwdsmon ei hun.
Gallwch ofyn am becyn ymgeiswyr sy’n cynnwys y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person yn llawn gan Richard Coombs yn Yolk Recruitment.
Gallwch wneud cais yn y Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

Job number 2206523
Increase your exposure to recruiters with ProJobs
Thousands of recruiters are looking for you in the Job Master profile database, increase your exposure 4 times with a ProJob subscription
You can cancel your subscription at any time.
metapel
Company Details:
Yolk Recruitment Ltd
Company size: 20–49 employees
Industry: Recruitment Consultancy
We’re all about people. You, yours, ours. Connecting. Building relationships. Making the right matches. Finding that missing piece. And it&rsquo...